Cymraeg

Up Gwirfoddolwyr

Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol

Rhadffôn 0800 132 737

lechyd meddwl Llinell gymorth ffôn

Llinellau ar agor o dydd Llun i dydd Gwener 7pm - 11pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12 canol dydd - 12 canol nos.

Mae galwadau i'r llinell gymorth yn gyfrinachol ac nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion personol er mwyn derbyn cymorth neu wybodaeth.

Mae galwadau yn rhad ac am ddim ac ni fyddant yn cael eu rhestru ar filiau ffôn.

Bydd y staff hyfforddedig yn gwrando ar eich problemau neu drafferthion ac yn darparu gwybodaeth a allai fod o gymorth - os yw hynny'n briodol.

Mae gwybodaeth gyffredinol ar gael ynglyn â iechyd/salwch meddwl, symptomau, triniaeth a chyfraith iechyd meddwl ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau eraill.

Rydym yn cynnig cefnogaeth trwy wrando ar y galwyr sy'n teimlo'r angen i siarad am eu profiadau a'u teimladau.

Withiau efallai mai dim ond clust i wrando sydd arnoch ei angen.

Pam fod angen C.A.L.L?

Dynodwyd yr angen am wasanaeth tu allan i oriau arferol ar gyfer pobl sy'n ymdopi â salwch meddwl, gan defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymuned. Mae'n cynnwys perthnasau dioddefwyr a ffrindiau. Mae'r Llinell gymorth yn fenter sy'n cael ei arwain gan Ddefnyddwyr.

Rhif ffôn Swyddfa (Ymholiadau Cyffredinol) 01978 366206.

Mae llawer o bobl yn teimlo'n ynysig ac nid ydynt yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Mae gan C.A.L.L. gronfa ddata wybodaeth gynhwysfawr sy'n cynnwys manylion am wasanaethau ac mae'n medru cynnig gwybodaeth parthed grwpiau lleol ar gyfer y rhai sy'n ffonio, ynghyd â chysylltiadau cenedlaethol os mai dyna sydd ei angen ar y person sy'n galw.

Aelod o Gymdeithas llinellau Cymorth Teleffon.

Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru gyda chymorth ariannol a chefnogaeth hyffordiant oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Page last updated: 25/05/2004